Eluned Morgan AS
 Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg
     

    

18 Tachwedd 2020

Annwyl Weinidog,

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2021-22

Yn unol â’n harfer, ysgrifennaf cyn cyhoeddi Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 i ofyn am wybodaeth ysgrifenedig i lywio gwaith craffu’r Pwyllgor. 

Rydym yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi’r Gyllideb Ddrafft ar 21 Rhagfyr 2020, a hoffem gynnal sesiwn tystiolaeth lafar gyda chi yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd. Bydd y Clerc yn cysylltu â'ch swyddfa i drafod dyddiadau.

I helpu â’n paratoadau, byddwn yn ddiolchgar o dderbyn manylion y wybodaeth a nodir yn yr Atodiad i'r llythyr hwn, ynghyd ag unrhyw wybodaeth arall yr hoffech ei darparu, erbyn dydd Mawrth 22 Rhagfyr.

 

Yn gywir

 

Dr Dai Lloyd AS

Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

 

 

 

 

 

 

 

 

Atodiad 1

Cais gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i’r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg roi gwybodaeth i lywio'r gwaith o graffu ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2021-22.

 

Blaenoriaethu adnoddau

Esboniad o sut mae eich blaenoriaethau ar gyfer iechyd meddwl a lles yn cael eu hadlewyrchu yng Nghyllideb Ddrafft 2021-22, a lle y gellir dod o hyd i'r gwariant a ddyrannwyd/a ragwelir ar gyfer y blaenoriaethau hyn (e.e. dadansoddiad o ddyraniad Prif Grŵp Gwariant Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol 2021-22 yn ôl Maes Rhaglenni Gwariant, Cam Gweithredu a Llinell Wariant y Gyllideb), gan gynnwys;

-      Gwasanaethau iechyd meddwl (gan gynnwys y Gronfa ar gyfer Gwella Gwasanaethau Iechyd Meddwl)

-      Dementia

-      Awtistiaeth

-      Camddefnyddio Sylweddau (gan gynnwys y Gronfa ar gyfer y Cynllun Gweithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau)

-      Iechyd cyn-filwyr

-      Profiad y claf

-      Gordewdra/gweithredu 'Pwysau Iach, Cymru Iach'.

Canran/cyfran cyllideb Cymru sy'n cael ei dyrannu i iechyd meddwl a lles yn y Gyllideb Ddrafft, a sut y mae hyn yn cymharu â blynyddoedd blaenorol. Manylion unrhyw gynnydd neu ostyngiad o ran meysydd penodol o'r Gyllideb Ddrafft o'u cymharu â’r blynyddoedd blaenorol (e.e. lleihau grantiau neu grantiau'n peidio â bodoli'n gyfan gwbl/cyflwyno grantiau neu eu cynyddu).

I ba raddau y mae'r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 wedi dylanwadu ar eich blaenoriaethau/dyraniadau i linellau cyllideb o fewn Prif Grŵp Gwariant Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (h.y. i ba raddau y mae'r rhai mwyaf difreintiedig yn cael eu blaenoriaethu gan ddiwallu eu hanghenion drwy'r Gyllideb Ddrafft hon).

Sut y bydd dyraniadau cyllid y Gyllideb Ddrafft yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno'r Cynllun Cyflawni diwygiedig Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, gan gynnwys manylion y gefnogaeth ariannol i elusennau a'r Trydydd Sector wrth gefnogi'r sawl sydd â phroblemau iechyd meddwl (h.y. gwasanaethau cynghori, llinellau cymorth atal hunanladdiad).

 

Yr effaith y mae COVID-19 wedi'i chael ar ddyraniadau

Manylion am sut y mae'r pandemig wedi dylanwadu ar ddyraniadau i linellau cyllideb o fewn y Prif Grŵp Gwariant Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, gan gynnwys enghreifftiau o unrhyw newidiadau a wnaed i ddyraniadau o fewn y Gyllideb Ddrafft ers blynyddoedd blaenorol - o ganlyniad i COVID-19. Yn benodol;

-      A yw'r cyllid ar gyfer iechyd meddwl a lles, ar draws pob maes o'ch portffolio, wedi'i ddiogelu/cynyddu/lleihau yn ystod y pandemig, a sut mae'r newidiadau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y Gyllideb Ddrafft (h.y. enghreifftiau o'r buddsoddiad ychwanegol o ran capasiti cleifion mewnol iechyd meddwl – cynaliadwyedd hyn yn y tymor byr a'r tymor hwy). Manylion am yr achosion a welwyd o ailddefnyddio cyllid o’r Gronfa ar gyfer Gwella Gwasanaethau Iechyd Meddwl a'r rhaglen Pwysau Iach, Cymru Iach. Sut mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y Gyllideb Ddrafft.

 

-      Pa gyfran o'r cynnydd mewn refeniw o’r cronfeydd wrth gefn, trosglwyddiadau o fewn portffolios a/neu addasiadau i gyllideb Cymru sydd wedi/a fydd yn cael ei ddefnyddio at ddiben Llinellau Gwariant yn y Gyllideb wrth ymateb i effeithiau’r pandemig ar iechyd meddwl a lles. Sut y mae hyn yn cymharu ag iechyd corfforol. 

 

-      Sut y mae dyraniadau yn y Gyllideb Ddrafft yn dangos ymrwymiad i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, sydd wedi'u gwaethygu gan y pandemig a/neu lle mae'r pandemig a’r mesurau cloi wedi cael effaith anghymesur ar les rhai grwpiau o bobl (fel oedolion hŷn, cymunedau BAME a'r rheini sydd ar incwm isel neu sydd heb sicrwydd ariannol). Sut y bydd eu hanghenion yn cael eu diwallu (h.y. mynediad at gymorth iechyd meddwl mewn gofal sylfaenol, buddsoddi mewn therapïau seicolegol, atal hunanladdiad, mynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd, mynd i'r afael ag ymddygiadau afiachus fel camddefnyddio sylweddau, gor-fwyta).

 

-      Manylion penodol ar y dyraniadau gwariant yn y Gyllideb Ddrafft ar gyfer gwasanaethau cymorth iechyd meddwl ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, ochr yn ochr ag esboniad p’un a yw'r Gyllideb Ddrafft yn cynnwys dyraniad penodol ar gyfer adnoddau staffio ychwanegol o ran y gweithlu iechyd meddwl, yn enwedig wrth gefnogi'r rheini â dementia ac awtistiaeth.

 

Gweithio trawslywodraethol ac ar draws sectorau

-      Enghreifftiau o ddyraniadau yn y Gyllideb Ddrafft sy'n dangos bod Llywodraeth Cymru yn cymryd dull 'system gyfan', trawslywodraethol, cydgysylltiedig o wella iechyd meddwl a lles pobl - gan gydnabod penderfynyddion ehangach iechyd meddwl a lles (h.y. nad y GIG yn unig sy’n gyfrifol am y maes). Sut i sicrhau na chollir y ffocws ar fesurau atal/ymyrraeth gynnar o ganlyniad i'r pandemig, a sut yr adlewyrchwyd hyn yn nyraniadau’r Gyllideb Ddrafft.

 

-      Manylion sut rydych chi'n ymgysylltu â Byrddau Iechyd i sicrhau bod y dyraniad yn y Gyllideb Ddrafft ar gyfer darpariaeth iechyd meddwl yn ddigonol i fodloni’r galw am wasanaethau, gan gynnwys asesiad o ba mor effeithiol y mae'r Gronfa ar gyfer Gwella Gwasanaethau Iechyd Meddwl wedi bod wrth alluogi Byrddau Iechyd i ymateb i anghenion iechyd meddwl y boblogaeth, megis mewn gofal argyfwng ac ymyrraeth seicolegol. A yw swm y gwariant a gynlluniwyd gan Fyrddau Iechyd ar wasanaethau iechyd meddwl o fewn y GIG wedi cynyddu neu ostwng o ganlyniad i'r pandemig.

 

 

Asesiad effaith

-      Eich barn ar yr effaith y bydd y Gyllideb Ddrafft hon yn ei chael ar wella iechyd meddwl a lles pobl ar draws pob maes o'ch portffolio, yn enwedig yng nghyd-destun y coronafeirws.

Iechyd Meddwl a Lles Plant a Phobl Ifanc

Rydym yn deall y byddwch yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, gan edrych yn benodol ar y Gyllideb Ddrafft/gwariant ar blant a phobl ifanc mewn perthynas â'u hiechyd meddwl a'u lles (e.e. cyllid i ysgolion wella gwasanaethau cwnsela ac ati).

Er na fyddwn yn dyblygu'r gwaith hwn, byddai'n ddefnyddiol i aelodau'r Pwyllgor hwn weld eich llythyr at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, yn nodi sut rydych chi'n bwriadu blaenoriaethu iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc yn y Gyllideb Ddrafft.